Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Y Trafodion

cartref > Y Trafodion

Mae’r Trafodion yn ymddangos yn flynyddol ar ffurf cyfnodolyn ysgolheigaidd sy’n cynnwys papurau a draddodwyd i’r Gymdeithas fel rhan o’i rhaglen flynyddol o ddarlithoedd, ynghyd ag erthyglau ychwanegol a gomisiynir gan y Golygydd neu a gyflwynir gan gyfranwyr.

Yn y Trafodion, ceir erthyglau am bob agwedd ar hanes a diwylliant Cymru o unrhyw gyfnod, gan gynnwys llenyddiaeth (Cymraeg a Saesneg), hanes, celf, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth. Gellir cyflwyno erthyglau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Y Trafodion yw un o’r cyfnodolion ysgolheigaidd hynaf ym Mhrydain, a’r unig un i arbenigo mewn astudiaethau Cymreig rhyngddisgyblaethol

MYNEDIAD I ERTHYGLAU

Darperir copi print o bob cyfrol o’r Trafodion am ddim i aelodau’r Gymdeithas.

Gyda chaniatâd y Gymdeithas, mae cyfrolau’r cyfnod rhwng 1900 a 2004 (Cyfres Newydd Cyfrol 11) ar gael ar fynediad agored trwy wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru ble gellir eu darllen am ddim ac heb unrhyw gyfyngiad.  Disgwylir i gyfrolau am y cyfnod 1892 – 1899 ddod ar gael drwy wefan y Llyfrgell yn fuan. Ariannwyd digideiddio’r cyfrolau hyn trwy’r Rhaglen Digideiddio JISC.  Gellir defnyddio’r deunydd o’u mewn at unrhyw bwrpas ond bod y Gymdeithas a’r awdur yn cael cydnabyddiaeth. Ar gyfer digido cyfrolau o’r cyfnod 1892-1899, cysylltwch â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, os gwelwch yn dda.

Mae erthyglau o 2005-y gyfrol ddiweddaraf ar gael arlein trwy’r wefan hon.

Sut i gyflwyno erthygl i’w chyhoeddi

Dylid cyflwyno erthyglau ar ffurf copi caled unigol neu ffeil electronig (dogfen Word) wedi’i chyflwyno drwy’r wefan neu drwy e-bost i’r Golygydd. Ni ddylai erthyglau fod yn rhagor na 7000 o eiriau, yn cynnwys nodiadau. Mae’r Trafodion yn defnyddio canllaw arddull yr MHRA (Cymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Modern). Mae copïau o’r canllaw arddull ar gael oddi wrth yr MHRA a cheir crynodeb o’r canllaw ar ei gwefan (www.mhra.org.uk).

Caiff cyflwyniadau eu hadolygu yn anhysbys gan gymheiriaid, ac fel arfer cânt eu darllen gan un aelod o’r Bwrdd Golygyddol ynghyd â darllenydd arall a enwebir gan y Golygyddion. Dychwelir sylwadau’r darllenwyr i’r cyfranwyr.

Golygyddion

Dr. Sara Elin Roberts FRHistS, FHEA

editor@cymmrodorion.org

Y Bwrdd Golygyddol

Dr Stephen K. Roberts
Dr Karen Jankulak
Dr David Ceri Jones – Prifysgol Aberystwyth
Dr Ceridwen Lloyd-Morgan
Dr Simon Rodway – Prifysgol Aberystwyth
Dr Lisa Sheppard