
Yr Athro Syr Deian Hopkin
FRHistS FSLW FRSA FCGI
Wedi’i eni yn Llanelli a’i addysgu yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Coleg Llanymddyfri a Phrifysgol Aberystwyth, mae Deian yn hanesydd y mudiad Llafur ac undebau llafur ac o’r defnydd o dechnolegau newydd mewn hanes ac ef oedd golygydd-sylfaenydd Llafur, Cylchgrawn Hanes Pobl Cymru. Ar ôl 25 mlynedd yn yr Adran Hanes yn Aberystwyth bu’n Ddeon Gwyddorau Dynol ac yn Is-Brofost ym Mhrifysgol Guildhall Llundain ac yna’n Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol South Bank Llundain.
Dros y blynyddoedd bu’n gwasanaethu ar lawer o gyrff cyhoeddus a chynghorol, byrddau prifysgolion a cholegau, ymddiriedolaethau ac elusennau ac ymhlith nifer o rolau cyfredol mae’n lifrai ac yn ymddiriedolwr Cwmni Anrhydeddus yr Addysgwyr yn Ninas Llundain, yn gwasanaethu ar Fwrdd Ymgynghorol Archif Wleidyddol Cymru, yn gweithio ym maes ymgynghori addysg ac yn darlledu’n rheolaidd ar Radio Cymru a BBC Wales.
Bu’n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 2011 a 2015 a hyd 2021 yn Gynghorydd Arbenigol i Brif Weinidog Cymru a Chadeirydd Cymru’n Cofio 1914-18. Yn Gymrawd o’r Gymdeithas Hanes Frenhinol, yr RSA, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, City and Guilds a CIBSE mae wedi derbyn graddau er anrhydedd gan chwe phrifysgol gan gynnwys Llundain, McGill (Montreal) a’r Brifysgol Agored a derbyniodd Wobr Dewi Sant Arbennig y Prif Weinidog yn 2019. Yn 2009 cafodd ei urddo’n farchog am wasanaethau i addysg uwch a sgiliau yn y DU ac yna gwasanaethodd ar Bwyllgor Anrhydeddau Addysg Swyddfa’r Cabinet.
Traddododd Darlith Goffa Syr T H Parry-Williams yn 2000.