Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

GOLYGYDD

Dr. Sara Elin Roberts FRHistS

Mae Dr Sara Elin Roberts yn ganoloeswr yn arbenigo ar Gymru’r oesoedd canol, yn arbennig hanes Cymru’r oesoedd canol, cyfraith Hywel Dda, testunau a llawysgrifau, a rhyddiaith Gymraeg canol. Mae hi wedi gweithio fel darlithydd mewn sawl prifysgol, gan gynnwys Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Hanes ym Mhrifysgol Bangor, ac Adran Hanes ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Caer. Mae Dr Roberts wedi cyhoeddi yn helaeth ar wahanol agweddau o Gymru’r oesoedd canol, gan gynnwys ei llyfr, a enillodd ddwy wobr, ar gyfraith Hywel, The Legal Triads of Medieval Wales (GPC, 2007). Roedd hi hefyd yn un o’r golygyddion ar gyfer y golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym, a gyhoeddwyd arlein fel www.dafyddapgwilym.net