Drwy ddyfarnu’r fedal, mae Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn darparu cydnabyddiaeth ffurfiol o gyfraniad llawer o unigolion a roddodd wasanaeth nodedig i Gymru mewn llawer maes. Dyfarnwyd y fedal am y tro cyntaf ym 1883. Ar yr wyneb blaen, gwelir arfbais y Gymdeithas, a’i harwyddair, Cared doeth yr encilion. Ar y cefn, ceir y geiriau, Wales, and all things great, wise and holy. Caiff geiriau priodol sy’n cyfeirio at dderbynnydd y fedal eu hysgythru o amgylch yr ymyl, sy’n cyfleu ‘gwaith nodedig i Gymru’.
Mae’r canlynol wedi derbyn y Fedal:
- Y Parchedig William Rees DD (Gwilym Hiraethog)
- Y Parchedig Ganon Daniel Silvan Evans BD DLitt
- Y Gwir Anrhydeddus Brifathro Syr John Rhys PC DLitt LLD
- Syr John Williams Barwnig GCVO MD LLD DSc
- Yr Athro Syr John Edward Lloyd DLitt FBA
- Henry Owen MA DCL
- Syr Isambard Owen MA MD DCL LLD
- Syr Owen Morgan Edwards MA DLitt
- Yr Athro Syr John Morris-Jones MA LLD
- Y Parchedig Griffith Hartwell-Jones DD DLitt FSA FRSA
- Yr Athro Syr Henry Jones CH LLD FBA
- Edward Owen MA FSA
- EUB Tywysog Cymru KG KT (Edward VIII)
- Syr Evan Vincent Evans CH LLD FSA
- Y Gwir Anrhydeddus Syr John Herbert Lewis PC GBE LLD
- Syr William Goscombe John RA LLD
- Mary Davies MusDoc FRAM
- Ben Davies MusDoc FRAM
- Syr John Ballinger CBE MA
- Ernest Rhys (Golygydd Everyman’s Library)
- Y Parchg Howell Elvet Lewis CH MA DD LLD (Elfed)
- Yr Athro Thomas Gwynn Jones CBE DLitt
- Yr Athro Syr Ifor Williams DLitt LLD FBA
- Syr Daniel Lleufer Thomas LLD
- Yr Athro John Lloyd Williams DSc MusDoc
- Thomas Jones CH LLD
- Syr H Idris Bell CB OBE LLD DLitt FBA
- Yr Athro W J Gruffydd MA DLitt DL
- Yr Athro Syr Thomas Parry-Williams MA DLitt D D
- Saunders Lewis MA DLitt
- EM y Frenhines Elizabeth II
- Yr Athro R T Jenkins CBE MA DLitt LLD FSA
- Syr Wynn Powell Wheldon KBE DSO MA LLD
- Syr Ifan ab Owen Edwards MA LLD
- Syr David Hughes Parry QC LLD DCL
- Thomas Richards MA DLitt
- Kate Roberts DLitt
- Syr John Cecil-Williams MA LLD
- Llewelyn Wyn Griffith CBE DLitt
- Syr Goronwy Edwards MA DLitt FBA FSA
- Syr Ben Bowen Thomas MA LLD
- Syr Thomas Parry MA DLitt DLittCelt LLD FBA
- Iorwerth Cyfeiliog Peate MA DSc DLitt DLittCelt FSA
- John Gwilym Jones MA DLitt
- Gwynfor Evans MA LLD
- Syr Geraint Evans CBE DMus
- Yr Athro Gwyn Jones CBE MA DLitt
- Yr Athro Glanmor Williams CBE FBA DLitt
- Syr J Kyffin Williams OBE DL RA
- Y Parchedig R S Thomas BA
- Yr Athro Emrys Jones PhD DSc DUniv FRGS
- Emyr Humphreys BA DLitt FRSL
- Norah Isaac MA
- Yr Athro Syr John Meurig Thomas DSc ScD DLitt LLD FRS FLSW HonFREng HonFRSE
- Dr Brynley F Roberts CBE DLitt MA PhD FSA FLSW
- Y Parchedicaf a’r Gwir Anrhydeddus Y Barwn Williams o Ystumllwynarth MA DPhil DD FBA FRSL FLSW
- Yr Athro Arglwydd Morgan o Aberdyfi DPhil DLitt MA FBA FRHistS FLSW
- Yr Athro Syr Martin Evans FRS FLSW
- Yr Athro Emeritws R Geraint Gruffydd FBA FLSW
- Jan Morris CBE FRSL FLSW
- Yr Athro Prys Morgan DL MA FSA FRHistS FLSW
- Dr Daniel Huws FLSW
- Peter Lord