Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Cyhoeddiadau Eraill

cartref > Y Gymdeithas > Cyhoeddiadau > Cyhoeddiadau Eraill

THE WELSH IN LONDON 1500–2000

Emrys Jones (Awst 2001)

Clawr papur ISBN 0-7083-1697-2
Clawr caled ISBN 0-7083-1710-3

Llundain yw cartref y gymuned Gymreig hynaf a mwyaf y tu allan i Gymru. Ers esgyniad Harri Tudur, bu niferoedd y Cymry a drigai yn Llundain yn cynyddu’n raddol. Nid trigolion parhaol oedd llawer o’r rhai cyntaf i gyrraedd: gweithwyr tymhorol oedd y porthmyn a’r chwynwyr, ac roedd haenau uchaf cymdeithas yn rhannu eu hamser rhwng eu hystadau a’u cartrefi yn y ddinas. Erbyn canol y ddeunawfed ganrif, roedd Llundain yn dipyn o feca i awduron a hynafiaethwyr Cymru. Dyma gyfnod sefydlu’r Cymmrodorion a’r Gwyneddigion a chyfarfod cyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Gwelwyd ymchwydd arall yn y niferoedd a heidiai i Lundain yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma gyfnod y gwŷr llaeth a’r dilledyddion a thwf y capel fel canolbwynt i fywyd Cymreig yn Llundain. Yn ystod y Dirwasgiad, heidiodd niferoedd enfawr eto, wrth i athrawon, gweithwyr diwydiannol a morwynion tŷ o Gymru geisio gwaith yn y brifddinas. Mae allfudo o Gymru yn parhau heddiw ond ar raddfa lai. Amcangyfrifir bod tua 70,000 o bobl o dras Cymreig yn byw yn Llundain nawr.

Dyma hanes dynol Cymry Llundain, sy’n canolbwyntio ar fynd a dod dynion a menywod cyffredin yn ogystal â chyfraniad rhai unigolion amlwg.

 

‘…readable and nicely illustrated volume about a significant if often elusive group that belongs simultaneously to the histories of London and Wales’
Urban History

 

‘At long last we have a history of the Welsh in London which does justice to the inherent interest and importance of the subject, written by one of the leading urban geographers of our time, and which succeeds, in a most convincing manner, in providing a full and rounded account of its subject. It is written in a plain and unfussy style, often with wit and humour. It is well illustrated and is altogether a pleasure to read. The author is reassuringly familiar with all the places he refers to, and he takes an infectious pleasure in the perambulations, which his readers are invited to enjoy his company. Though scholarly and fully annotated, the book will appeal equally to the curious reader and the well-informed scholar.’
Archaeologia Cambrensis

 

‘Apart from being highly readable, The Welsh in London opens up a number of fascinating aspects of history of the Welsh migrant experience in the capital’
Journal of Contemporary History

 

‘This account of the Welsh diaspora in London is full of interest, providing a comprehensive overview and a whole host of intriguing details and sidelights.’
gwales.com

 

‘…y mae’n gyfrol ddifyr, darllenadwy, er ei hysgolheictod …Mae yma lwyth o wybodaeth ddiddorol, pwyntiau bach sy’n cosi chwilfrydedd …Mae’n gyfrol sy’n ein tywys o Oes y Tuduriaid i oes SWS a chysylltiadau rhyngrwyd, o Evan Evans y Prydydd Hir I Evan Evans Tours …dyma gyfrol neilltuol o ddifyr a diddorol.’
Llais Llên

 

CYFRANWYR

  • Emrys Jones – Athro Emeritus mewn Daearyddiaeth, Ysgol Economeg Llundain, a llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.
  • Hafina Clwyd, athrawes a newyddiadurwraig; golygydd Y Faner 1986–92
  • William P. Griffith, Uwch Ddarlithydd, Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Cymru, Bangor
  • Rhidian Griffiths, Ceidwad Adran y Llyfrau Printiedig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
  • H. T. Ivor James, meddyg teulu wedi ymddeol
  • David Lewis Jones, Llyfrgellydd, Tŷ’r Arglwyddi
  • Peter Lord, Cymrawd Ymchwil, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth
  • Neil McIntyre, Athro Emeritus mewn Meddygaeth, Royal Free and University College Medical School
  • Jeremy Segrott, Uwch Gynorthwyydd Ymchwil, Adran Ddaearyddiaeth, Prifysgol Cymru, Abertawe
  • Wyn Thomas, Darlithydd Cerddoriaeth, Adran Gerddoriaeth, Prifysgol Cymru, Bangor