Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

newyddion

cartref > Newyddion > Gwobr Traethawd Angharad Dodds John, 2025

Gwobr Traethawd Angharad Dodds John, 2025

Wednesday 19 February, 2025

Mae’n bleser gennym gyhoeddi enillydd Gwobr Traethawd 2025. O faes cryf o draethodau o safon uchel ar amrywiaeth o bynciau, dewisodd y beirniaid draethawd gan Dr Dewi Alter dan y teitl ‘Haneswyr Cymru a’r Cof am y Mortimeriaid yng Nghymru’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’. Mae’r traethawd yn trafod sut cafodd y teulu Mortimer, Ieirll March, eu coffáu gan haneswyr diweddarach, yn enwedig Humphrey Llwyd yn ei Cronica Walliae a David Powel yn ei Historie of Cambria now called Wales. Roedd y beirniaid yn teimlo fod y traethawd yn cyflawni’r holl feini prawf ar gyfer y wobr gan ddatgan fod ‘y traethawd yn ysgolheigaidd ond hefyd yn hygyrch, gan ddangos trylwyredd a gwreiddioldeb yn ei ymchwil.’  Derbynia’r enillydd wobr o £500 a chyhoeddir y traethawd yn y rhifyn nesaf o’r Trafodion

Hoffem ddiolch yn fawr i deulu Angharad Dodds John am waddoli’r wobr hon, a fydd yn cael ei chynnig eto yn 2026.

Mae Dr Dewi Alter yn Ddarlithydd yn y Gymraeg yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn Gydymaith Ymchwil Coleg yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt. Cyhoeddir ei lyfr cyntaf, Cof Diwylliannol yng Nghymru’r Cyfnod Modern Cynnar, ym mis Mai 2025. Ar hyn o bryd mae’n paratoi argraffiad o ysgrifau Robert Owen am daith y Brenin Cadwaladr Fendigaid, brenin olaf Prydain, i Rufain, a ysgrifennwyd yn y 1580au. Cafodd y traethodau eu hailddarganfod yn ddiweddar yn y Bibliotheca Apostolica Vaticana. Mae Dr Alter wedi dal cymrodoriaethau ôl-ddoethurol yn yr Ysgol Geltaidd, Athrofa Uwchefrydiau Dulyn, ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.

Beirniaid Gwobr Traethawd Angharad Dodds John 2025 oedd Yr Athro Helen Fulton a’r Athro Sara Elin Roberts