Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Y Trafodion

cartref > Transactions > Volume 30 - 2024 > ‘TEWI’R IAITH AR Y TROTHWY’: CERDDI AC ECO-IEITHYDDIAETH

‘TEWI’R IAITH AR Y TROTHWY’: CERDDI AC ECO-IEITHYDDIAETH

Ddeng mlynedd yn ôl, mewn erthygl yn rhifyn 150 Taliesin (2013, t. 79), holodd Damian Walford Davies: ‘[s]ut yr ymatebodd y meddwl a’r dychymyg llenyddol Cymraeg i bresenoldeb sefydliadau milwrol ar dir Cymru […]?’, cyn mynd yn ei flaen i ddatgan bod hwn yn gategori o ‘lên rhyfel nad yw eto wedi’i ddiffinio a’i archwilio’n fanwl’. Mae’r erthygl isod yn ymdrin ag un agwedd o’r categori hwnnw drwy ddarllen y dadleoli a ddigwyddodd yn sgil atafaelu tir yng Nghymru gan Weinyddiaeth Rhyfel yr Ail Ryfel Byd a’r darllen hwnnw’n digwydd yng ngoleuni damcaniaethau eco-ieithyddiaeth. Gan ddechrau gyda chywydd Waldo Williams, ‘Daw’r Wennol yn ôl i’w Nyth’, sy’n ymdrin â chanlyniadau atafaelu tiroedd Castell Martin yn ne Sir Benfro (1939), try’r sylwadau i ganolbwyntio ar waith rhai o’r beirdd a ymatebodd i Chwalfa’r Epynt (1940). Cymhara hynny â sut y mae lladmeryddion ar ran Gweinyddiaeth Amddiffyn ein dyddiau ni’n ymateb i effaith yr atafaelu ar yr amgylchedd. Mae’r ddadl yn hawlio mai tyndra rhwng ‘naratif absenoldeb’ a ‘naratif presenoldeb’ yw un o brif nodweddion y gwahaniaeth rhwng y ddau fath ar ymateb.

or to access all content on this site, join today

For £35 a year you can access all lectures and articles on this site, attend lectures and receive our yearly Transactions

join today

If you are an existing member, you can access this lecture by logging in

login