Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Y Trafodion

cartref > Transactions > Volume 19 - 2013 > Cyfraith, Carchar a Chastell: Hynt a Helynt Llawysgrif Gyfreithiol

Cyfraith, Carchar a Chastell: Hynt a Helynt Llawysgrif Gyfreithiol

Mae’r testunau Cyfraith Hywel yn destunau pwysig o’r oesoedd canol, yn dystiolaeth am Gymru, gweinyddu’r gymdeithas, yr hyn a oedd yn bwysig i bobl yn y cyfnod a’r hyn a oedd yn anaddas; mae cyfraith bob amser yn rhoi mwy o dystiolaeth am yr ochr negyddol, y pethau sydd angen eu rheoli, nag am fywyd bob dydd sydd yn cael ei gynnal heb unrhyw broblemau. Nid oes angen mynd i fanylion am bwysigrwydd Cyfraith Hywel fel tystiolaeth hanesyddol ar gyfer Cymru’r oesoedd canol. Ond mae un llawysgrif ddiweddar o Gyfraith Hywel – y llawysgrif ddiweddaraf, fel y mae’n digwydd – sydd yn mynd â’r dystiolaeth yn ehangach. Ceir nodyn diddorol yn y llawysgrif hon, nodyn sydd yn cynnig stori dditectif ddifyr i ni, ac mae’r stori hon sydd yn gysylltiedig â’r llawysgrif Gymraeg o Gyfraith Hywel yn rhoi tystiolaeth am fwy na Chymru – gall fod yn allwedd i ddeall symudiadau pobl yn yr oesoedd canol, trosedd a chosb, brwydro, a hanes un castell arbennig yn Lloegr. Felly, mae hynt a helynt un llawysgrif benodol o Gyfraith Hywel yn rhoi tystiolaeth i ni am gyfraith Cymru yn yr oesoedd canol, fel y byddem yn ei ddisgwyl, ond hefyd am gyfnod un Cymro mewn carchar, a hynny mewn castell mawr yn Lloegr. Bwriad y papur hwn yw trafod yr elfennau hyn yn eu tro – gan ddechrau gyda chy wyniad byr i Gyfraith Hywel, yn canolbwyntio ar y llawysgrif benodol hon, cyn troi at y nodyn a’r stori ehangach ac arwyddocâd y nodyn hwn.

£3.00

Purchase and download

£3.00

Add to cart

or to access all content on this site, join today

For £35 a year you can access all lectures and articles on this site, attend lectures and receive our yearly Transactions

join today

If you are an existing member, you can access this lecture by logging in

login