Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Y Trafodion

cartref > Transactions > Volume 18 - 2012 > ‘Catrin o Eurlliw Irllwyth’: Catrin o Ferain a’i Hynafiaid a’r Beirdd

‘Catrin o Eurlliw Irllwyth’: Catrin o Ferain a’i Hynafiaid a’r Beirdd

Diolch yn fawr i’r Cymmrodorion am y fraint o gael traddodi’r ddarlith hon, braint arbennig i mi gan fod y ddarlith yn coffáu’r disgleiriaf o’m rhagflaenwyr yng nghadair Gymraeg Aberystwyth, Syr T. H. Parry-Williams, gŵr y mae’n hynod gymwys cofio amdano mewn Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn sgil y gamp arbennig a gyflawnodd yma gant namyn un o flynyddoedd yn ôl.

Fe hoffwn ddweud gair am bwnc y ddarlith i ddechrau. Efallai y bydd rhai ohonoch yn meddwl fod y ddarlith wedi ei chamamseru braidd, gan na chynhelir yr Eisteddfod yn Ninbych – calon bro Catrin o Ferain – am ddwy flynedd arall. Ond mae pobl o’m cenhedlaeth i yn dal i feddwl yn nhermau’r hen sir Ddinbych; nid y sir Ddinbych ryfedd bresennol a gipiodd Y Rhyl a Phrestatyn oddi ar sir y Fflint ac Edeirnion oddi ar sir Feirionnydd ond a gollodd Wrecsam, ond yr hen sir Ddinbych fel yr oedd tan 1974. Yr oedd bro Catrin o Ferain a Wrecsam fel ei gilydd yn cydorwedd yn gyfforddus o fewn ffiniau’r sir honno. Mae un o’r cymeriadau yn nofel R. Cyril Hughes Catrin o Ferain yn cwyno, ‘Dembisheiar ydi popeth rŵan.’2 Er gwell neu er gwaeth, mae cysgod y ‘Dembisheiar’ honno – yr hen sir Ddinbych – wedi dylanwadu ar fy newis o bwnc i draethu arno yn Wrecsam heddiw.

£3.00

Purchase and download

£3.00

Add to cart

or to access all content on this site, join today

For £35 a year you can access all lectures and articles on this site, attend lectures and receive our yearly Transactions

join today

If you are an existing member, you can access this lecture by logging in

login