Gwobr Traethawd Angharad Dodds John.

Mae Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn falch o allu cynnig Gwobr Traethawd o £500 ym mhob un o’r tair blynedd nesaf (2025–2027) am draethawd academaidd gan ysgolhaig ar ddechrau gyrfa. Gall y traethawd fod ar unrhyw bwnc yn y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol sy’n ymwneud â Chymru, ei hanes, llenyddiaeth (Cymraeg a Saesneg), economeg, gwleidyddiaeth a diwylliant gan gynnwys celf a cherddoriaeth. Mae Gwobr y Traethawd, a gynhigiwyd yn hael gan Robert John a Philippa Dodds John, er cof am eu diweddar ferch, Angharad.
Croesewir ceisiadau ar gyfer Gwobr Traethawd 2025 gan ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfa. Rhaid i draethodau fod yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol ac heb gael eu cyhoeddi gynt. Ni ddylai’r cyfraniadau fod yn fwy na 7,000 o eiriau, gan gynnwys troednodiadau. Cyhoeddir y traethawd llwyddiannus yn Nhrafodion blynyddol y Gymdeithas, un o’r cyfnodolion ysgolheigaidd hynaf ym Mhrydain, a’r unig un i arbenigo mewn astudiaethau rhyngddisgyblaethol Cymreig. Gall cyflwyniadau eraill nas dyfarnwyd y wobr iddynt gael eu hystyried ar gyfer eu cyhoeddi os ystyrir fod ganddynt deilyngdod digonol.
Cymhwysedd
Dylai ymgeiswyr am y wobr fod yn ymchwilwyr gyrfa gynnar, hynny yw, y rhai sydd wedi ennill gradd PhD neu MPhil o fewn yr wyth mlynedd diwethaf.
Sut i wneud cais
Y dyddiad cau ar gyfer rownd gyntaf y wobr yw 30 Tachwedd 2024 a dylid cyflwyno traethodau i: Ysgrifennydd y Cymmrodorion (secretary@cymmrodorion.org).
Gellir ysgrifennu’r gwaith yn y Gymraeg neu’r Saesneg a rhaid eu cyflwyno drwy e-bost fel dogfen PDF, gyda thudalennau wedi’u rhifo a phob ffynhonnell wedi’i chyfeirio mewn troednodiadau. Ni ddylai enw’r awdur nac unrhyw fanylion adnabod ymddangos ar enw’r traethawd neu enw’r ffeil gan y bydd yr holl gyflwyniadau yn cael eu barnu’n ddienw. Dylai ymgeiswyr gyflwyno, ynghyd â’u traethawd, CV ar wahân (dwy dudalen ar y mwyaf ) sy’n cynnwys eu henw a’u manylion cyswllt, a dyddiad dyfarnu Ph.D. / M.Phil.
Mae’r beirniaid yn cadw’r hawl i beidio â dyfarnu gwobr mewn unrhyw flwyddyn os nad yw safon y cynigion yn ddigon uchel.
Cysylltwch â Helen Fulton (Ymddiriedolwr y Cymmrodorion) am ymholiadau neu ragor o wybodaeth (helen.fulton@bristol.ac.uk).
Meini prawf ar gyfer dyfarnu gwobr
Ystyrir y traethodau gan banel o feirniaid a benodir gan Gymdeithas y Cymmrodorion. Bydd y beirniaid yn gwneud eu hargymhelliad, gan gynnwys adborth byr ar gyfer pob ymgeisydd, i Gyngor Cymdeithas y Cymmrodorion. Bydd y panel yn asesu traethodau ar sail y meini prawf canlynol:
• gwreiddioldeb a thrylwyredd yr ymchwil
• defnydd o ddeunydd ffynhonnell a meistroledd o dystiolaeth gynradd ac eilaidd;
• eglurder ac ansawdd ysgrifennu wedi’i gyfeirio at gynulleidfa ddeallus ond nid un ysgolheigaidd yn unig;
• cyfraniad y traethawd i ymchwil ar ddiwylliant Cymru.Hysbysir yr awdur llwyddiannus erbyn 31 Ionawr 2025, a disgwylir y bydd y traethawd llwyddiannus yn cael ei gyflwyno i’w gyhoeddi yn y Trafodion erbyn 30 Ebrill 2025 i’w gyhoeddi dros haf 2025. Dyfernir y Wobr Traethawd i’r ymgeisydd llwyddiannus mewn cyfarfod o’r Gymdeithas yn gynnar yn 2025. Cynhelir rownd nesaf cystadleuaeth y wobr yn 2025-6.