Cymmrodorion yn lansio chwiliad am Drysorydd
A fyddech chi’n ystyried gwneud cyfraniad i barhad a hyrwyddiant diwylliant a threftadaeth Cymru? Os felly, beth am ddarganfod mwy am ddod yn Drysorydd Mygedol newydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.
Dwy brif swyddogaeth y Trysorydd Mygedol yw cynnal cofnodion ariannol y Gymdeithas ynghyd â chronfa ddata ei haelodeth.
Mae’r ddau weithgaredd ar wahân (ond yn berthnasol i’w gilydd) ac yn ddiffwdan ac nid yw’n ofynnol cael sgil na chymhwyster cyfrifydd ond mae’n hanfodol bod yn gymwys (ar lefel sylfaenol) mewn MS Excel a MS Word. Gwneir y rhan fwyaf o’r holl drafodion yn ddi-bapur a gwneir y derbynebau’n electronig. Nid yw’r rôl yn heriol yn dechnegol a gall fod yn ddiddorol os ydych chi’n hyddysg yn Excel.
Oherwydd bod hon yn system awtomatig nid effeithiwyd ar y rôl gan y cyfnod clo. Dyluniwyd y taenlenni, a ddefnyddir ar hyn o bryd, yn bwrpasol i wneud y dasg ariannol a chadw cofnodion yr aelodaeth mor rhwydd â phosibl. Darperir esboniadau a chyfarwyddiadau cyflawn yn ystod cyfnod y trosglwyddo.
Mae’r Trysorydd Mygedol yn ymddiriedolwr ac yn aelod o’r Cyngor ac mae’r rôl hefyd yn cynnwys eistedd ar Bwyllgor Gweithredu’r Gymdeithas sy’n rheoli gweithgareddau cyffredinol y Gymdeithas a’i gwefan (a gefnogir gan weithwyr proffesiynol TG). Hefyd mae’r Pwyllgor Gweithredu yn cynnig argymhellion i’r Cyngor ar strategaeth y dyfodol. Mae’r Cyngor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn yn Llundain a disgwylir i’r Trysorydd Mygedol fynychu’r cyfarfodydd hyn. Mae’r Pwyllgor Gweithredu’n cyfarfod yn achlysurol. Yn ddiweddar, oherwydd y pandemig, cynhaliwyd yr holl gyfarfodydd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Nid yw’n hanfodol bod y Trysorydd Mygedol yn byw yn Llundain, nag ychwaith bod yn rhaid iddo/iddi siarad Cymraeg (er efallai byddai hyn o gymorth).
Er nad oes tâl am y swydd hon mae hi’n cynrychioli cyfraniad sylweddol i Gymru a’i threftadaeth. I ddod i wybod mwy am yr hyn mae’r Gymdeithas yn ei gyflawni ewch i www.cymmrodorion.org
Pe baech chi (neu rywun o’ch cydnabod) yn gallu helpu’r Gymdeithas trwy ddod yn Drysorydd Mygedol, a phe hoffech drafod y gwaith yn fwy manwl, cysylltwch ag un ai’r Trysorydd Mygedol ar treasurer@cymmrodorion.org neu’r Ysgrifennydd Mygedol ar secretary@cymmrodorion.org