7 Chwefror Medal y Cymmrodorion
Mae’r Cymmrodorion wrth eu bodd yn cyhoeddi y dyfernir Medal y Cymmrodorion eleni i’r Fonesig Siân Phillips am ei chyfraniad nodedig ar hyd ei hoes i’r celfyddydau ac i Gymru.
Dyfernir y fedal yng Nghanolfan Cymry Llundain ar Chwefror 7fed 2024. Mae croeso cynnes i chi ddod i dderbyniad byr am 7yh ac i seremoni’r fedal am 7.30yh.
Bydd y Fonesig Elan Closs Stephens, Is Lywydd y Cymmrodorion yn rhoi teyrnged i fywyd a gwaith y Fonesig Siân Phillips, a Syr Deian Hopkin, Llywydd y Cymmrodorion, fydd yn cyflwyno’r Fedal.
I archebu tocyn cliciwch yma.Mae nifer cyfyngedig o docynnau